Skip to content

Pam bod mwy iddi na jest “Agor i fyny’n emosiynol”

MAE hi’n wythnos iechyd dynion yr wythnos hon, gyda phwyslais arbennig yn cael ei osod ar iechyd meddwl dynion fel rhan o’r achlysur eleni.

Un o’r themau sy’n cael ei hyrwyddo fel rhan o’r wythnos ydi: “Dwi’n barod i siarad- wyt ti?”, gyda’r cwestiwn hwn yn ceisio annog dynion i fod yn fwy agored am eu hemosiynau a’u teimladau, ac yn fwy bodlon eu rhannu gydag eraill.

Mae ymdrech wedi’i wneud hefyd i ddiriaethu’r holl broses trwy baratoi cyfleon siarad a rhannu ar gyfer dynion a hynny mewn gofodau dynion-neilltuol fel siopau barbwr a champfeydd ac ati.

Mae unrhyw ymgais i hyrwyddo mwy o lythrennedd emosiynol ymhlith pobol i’w groesawu, ac yn sicr fe ellid dadlau bod mwy o angen hyn ymhlith dynion, sydd at ei gilydd yn dueddol o fod yn ‘resistant‘ iawn i’r elfen hon yn eu bywydau.

Gyda’r amharodrwydd hwn yn aml yn cael ei gysylltu gyda’r cyfraddau uchel o hunan-laddiadau, cam-ddefnyddio sylweddau, di-gartrefedd a chyfnodau mewn carchardai sydd i’w weld ymhlith dynion yn gyffredinol.

HEN BRYD CYDNABOD CHWALFA SY’N EFFEITHIO AR GYMDEITHAS GYFAN

A’r chwalfa hon wrth gwrs yn effeithio ar lawer mwy na’r dynion dan sylw eu hunain, gan fod eu sgil-effeithiau yn amharu ar fywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan. Mae’r argyfwng gyfredol ymhlith dynion felly’n argyfwng i gymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Mae’n hen bryd i ddynion gydnabod hyd a lled y broblem hon yn unigol, a rhoi llawer iawn mwy o bwys ar eu hiechyd meddwl a dyfeisio strategaethau pwrpasol er mwyn ei reoli a’i feithrin yn eu bywydau.

Fel rhywun sy’n ymroi i hunan-reoli fy iechyd meddwl beth bynnag, does dim amheuaeth bod llunio rhaglen amddiffynol bersonol yn rhywbeth eithriadol o werthfawr i’w wneud mewn bywyd, ac yn rhywbeth y dylai llawer mwy o ddynion ei wneud.

Ond er y bwriadau da sydd ynghlwm wrth wythnos fel hon,mae’r syniad hwn “os allwn ni gael dynion i agor i fyny am eu hemosiynau, bydd popeth yn iawn” braidd yn naif ac yn arwynebol.

Mae yna elfen ynddo o gyrff cyhoeddus yn bod ychydig yn nawddoglyd wrth geisio rhoi’r argraff mai gandddyn nhw y mae’r ateb i’r broblem ac mai eu rol hwy ydi addysgu dynion ynghylch y broblem.

PROBLEM FWY DIRFODOL NA’R HYN SYDD I’W WELD AR YR WYNEB

Ond mae yna elfen arall yn rhan o’r darlun, elfen llawer iawn mwy dirfodol mewn difrif nag anallu dynion i fynegi eu hemosiynau’n iawn a’r difrod sy’n digwydd yn sgil hynny.

A hynny i’w weld y tu hwnt i’r lefel unigol a thu hwnt i unrhyw gyfrifoldeb personol a hynny ar ffurf ffenomena cymdeithasol sydd wedi tyfu ar garlam dros y blynyddoedd diwethaf.

Sef y ffaith bod y term “toxic masculinity” wedi dod yn gymaint rhan o’r zeitgeist heddiw ac yn cael ei hyrwyddo’n ddi-drugaredd gan y cyfryngau torfol a’r byd hysbysebu/marchnata sy’n llywio cymaint ar feddwl ac ymddygiad unigolion heddiw.

Fel y soniwyd ynghynt, does dim gwadu nad oes problemau ynghlwm wrth ymddygiad dynion yn ein cymdeithas, yn hanesyddol hyd at heddiw, ond y drafferth ydi bod y term “toxic masculinity” bellach yn cael ei ddefnyddio fel erfyn amrwd a di-drugaredd yn erbyn dynion fel rhyw cyfan bron yn ddieithriad.

Bron nad yw cenhedlaeth gyfan o ddynion fel petaent yn cael eu cosbi heddiw am bechodau eu rhagflaenwyr hanesyddol.

CODI CYWILYDD, EUOGRWYDD A PHRYDER DI-ANGEN

A hynny yn ei dro yn creu cywilydd, euogrwydd a phryder di-angen ymhlith dynion fel un bloc cyfan- gan gyfrannu ymhellach at y “demoralisation” eang sydd i’w weld ymhlith dynion heddiw, a’r dryswch a’r diffyg cyfeiriad sy’n nodweddu cymaint o’u bywydau heddiw.

Ceir canfyddiad cyffedinol bod y rhinweddau traddodiadol gwrywaidd megis arwain, annibyniaeth, cryfder, dewrder a gwarchod, yn bethau sy’n perthyn i lyfrau hanes yng ngolwg y gymdeithas gyfoes. Ac os ydi’r rhinweddau hynny’n cael eu tanseilio, mae’n anorfod mewn ffordd bod cynheiliaid traddodiadol y rhinweddau hefyd yn cael eu tanseilio ar un ystyr.

A gyda dyfodiad AI(Artificial Intelligence) yn bygwth awtomeiddio popeth, a chwalu natur gwaith ymhellach fyth, dim ond gwaethygu mae’r rhagolygon i ddynion mae’n ymddangos.

Wrth gwrs, mae’r pwyslais cyfoes ar gyfartaledd, a’r syniad hwn nad oes unrhyw wahaniaeth rhyngddynt wedi bod yn ddatblygiad i’w groesawu ac yn gywiriad ar yr anghydbwysedd hanesyddol sydd wedi bodoli rhwng y rhywiau ar draws y canrifoedd.

Ond ar yr un gwynt, mae’n ddiddorol ystyried effeithiau y ffemineiddio mawr ar gymdeithas dros y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf wrth i’r broses hon fynd rhagddi yn y cartref, y byd gwaith ac ar draws y gofod cyhoeddus yn gyffredinol.

Ar wahan i’r cysyniad o “toxic masculinity” y soniwyd amdano uchod, elfen arall amlwg yw’r diwylliant o “safetyism” sydd wedi sydd wedi bod mor llethol dros gyfnod y coronavirus hefyd.

Gyda’r pwyslais mawr ar gadw pawb yn ddiogel yn cael ei ystyried yn llawer mwy rhinweddol a hanfodol nag unrhyw bwyslais ar ryddid unigolion, a’u hawl i ymarfer disgresiwn ar sut i ymateb i’r virus yn eu bywydau unigol- ffordd o feddwl mwy gwrywaidd o bosib.

Mae’r “safetyism” hwn wedi ei fynegi’n groyw iawn yn y glynu mawr presennol at y wladwriaeth a’u cyfarwyddiadau hwy ar sut i fyw a gweithio yn ystod cyfnod coronvirus.

Ai cyd-ddigwydiad yw’r ffaith fod y ddibyniaeth newydd hon fel petai’n digwydd ar yr union adeg y mae’r ffemineiddio mawr wedi gweld mwy a mwy o ferched yn mynegi eu hawl i fyw ar eu termau nhw eu hunain mewn bywyd bellach( 80% o ysgariadau yn cael eu cyflwyno gan ferched)?

Y WLADWRIAETH MEGIS Y GWR NEWYDD ERBYN HYN

Efallai ddim, gan y gellid dadlau bod y wladwriaeth bellach yn gweithredu megis “gwr” newydd i lawer o ferched ein cyfnod gan gynnig y warchodaeth a’r gynhaliaeth honno arferai gael ei harfer gan ddynion yn eu perthnasau.

Ac er mor atyniadol yw hyn ar un wedd, yn anffodus mae hanes yn ein dysgu nad ydi hi’n syniad mor dda a hynny i edrych ar unrhyw wladwriaeth fel endid “benign”ac ystyriol sy’n bodoli er ein lles ni fel unigolion boed yr unigolion hynny’n ferched neu ddynion.

Felly- er y syniad cadarnhaol sydd wrth wraidd yr “wythnos dynion” sydd wedi’i chynnal yr wythnos hon- golwg digon arwynebol ac annigonol ar sefyllfa dynion heddiw a gyflwynwyd mewn gwirionedd.

O ystyried yr uchod, tybed na fyddai’n well meddwl am slogan newydd ar gyfer yr wythnos hon y flwyddyn nesaf?Rhywbeth yn debyg i “Mi rydan ni’n barod i siarad am bethau go iawn- be’ amdani”